Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/115

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ion o, ac yn meddwl y buasai'r wialen fedw yn gwneud lles iddo. Euthum i chwilio am honno, ond tra bum i wrthi, 'roedd o wedi dwad o hyd i badell yn llawn o ddwr, ac wedi sefyll ar i ben yn honno. Digwydd cyrraedd mewn pryd ddarfu mi i'w achub rhag boddi. Ar ol ei gael allan o'r dwr, 'roedd o yn crio yn arw, a bu raid iddo gael benthyg fy oriawr cyn y tawai. Rhoes gost o chweugain ar honno cyn darfod â hi.

Erbyn hynny, 'roeddwn i yn meddwl ei bod hi yn amser rhoi'r plant eraill yn eu gwelyau. Felly, mi rwymais y babi wrth droed y bwrdd, ac euthum i'r ardd i nol y lleill. Cefais gryn drafferth i'w cael i'r tŷ, ond llwyddais o'r diwedd, ac ar ol gwneud iddynt fwyta dipyn o rual oedd mewn bowlen ar y bwrdd yn y gegin, gyrrais hwy i'w gwelyau. Deallais wedi hynny mai startsh oedd y grual, a dyna'r rheswm mae'n debyg fod y plant mor stiff drannoeth. Sut bynnag, mi gefais drafferth fawr i'w cadw yn ddistaw ar ol mynd i'w gwelyau. Yr oedd y cnafon bach yn ymladd ac yn ffraeo ac yn galw ei gilydd wrth enwau na chawsant erioed yn eu bedydd. 'Roedd y babi hefyd wedi gwneud cryn alanas tra bum i yn danfon y lleill i'r llofft. 'Roedd o wedi medru tynnu'r bwrdd i lawr ar ei gefn, ac yr oedd y gath yn digwydd bod o dano yntau. Ni chlywsoch erioed y fath dwrw rhwng y gath ag yntau a'r canibaliaid bychain yn y llofft.

'Roeddwn i yn dechreu mynd i anobaith, ac yn credu fod rhyw ddamwain wedi