Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/116

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

digwydd i Elin, onite y base adref cyn hynny. Cefais gryn drafferth cael y babi a'r gath a'r bwrdd yn rhydd oddi wrth ei gilydd. Yr oeddynt rywsut fel pe buasent wedi mynd yn gymysg. Ond wedi hir ymdrech, medrais eu gwahanu. Euthum â gweddillion y gath allan. Yr oedd y babi hefyd yn crio yn arw am fod y gath cyn i'r pwysau roi diben arni wedi plannu ei hewinedd ynddo. Y bwrdd oedd y distawaf o'r tri a'r hawsaf i'w drin o lawer. Ar ol rhoi'r babi yn ei gadair, euthum i geisio clirio tipyn ar y llawr, oedd wedi ei orchuddio â darnau o lestri te, a phethau ereill yr oedd y babi wedi eu malu, ond yr oedd y babi yn cadw cymaint o swn fel y daeth gwraig y tŷ nesaf i mewn i ofyn a oedd rhywbeth yn ceisio'i ladd o. Dywedais nad oedd, ond mai fo oedd yn ceisio fy lladd i, a'i fod agos iawn wedi medru hefyd. Chwarddodd y ddynes, ond 'doedd o ddim yn fater chwerthin ychwaith.

'Roeddwn i yn disgwyl yn eiddgar am weled Elin, ond 'doedd dim golwg am dani er i bod bellach yn hanner awr wedi saith. Bum yn yr helynt am awr wedyn, a thua hanner awr wedi wyth, dyma hi adref.

"Mi fum mewn pwyllgor ar ol y cyfarfod," meddai, "ac mi aeth yn o hwyr."

"Do, ddyliwn," meddwn innau.

Pan ddaeth hi i mewn a gweled yr olwg oedd ar y babi a phopeth arall, mi gafodd dipyn o fraw.

"Beth ar y ddaear ydech chi wedi wneud, deydwch?" ebr hi.