"Gofynnwch iddo fo," meddwn innau, "y fo ydi'r mistar."
"Welis i rioed y fath beth," ebr hi.
"Na finne."
"Dydi dynion ddim ffit," ebr hi, ac yna ychwanegodd, "ac i feddwl eu bod nhw yn gwrthod fôt i ferched!"
"Ie, wir," meddwn innau.
"Ple mae'r plant erill?" ebr hi.
"Mae nhw yn eu gwelyau."
Yr oedd y cnafon bach wedi tawelu erbyn hyn.
Ymosododd Elin arni i wneud trefn ar y babi o'r diwedd, ac yna gwnaeth i mi ei ddal ac aeth hithau i'r llofft i weled sut olwg oedd ar y lleill. Gyda'i bod hi yno, mi glywn rhyw ebychiad o syndod.
"John," ebr hi, "ble mae'n plant ni?"
"Be wn i, ydyn nhw ddim yna?" meddwn.
"Nag ydyn—o leiaf, dim ond dau o honyn nhw. Rhyw blant diarth ydi'r lleill! Be gebyst oedd arnoch chi, deydwch?"
Erbyn edrych, yr oeddwn wedi rhoi pedwar o blant rhywun arall yn y gwelyau gyda dau o'n plant ni.
Bu raid i mi ei gwadnu hi i chwilio am y lleill, a bum tan hanner awr wedi naw heb gael hyd iddynt. Dygais hwy adref, ond erbyn hynny, yr oedd acw barti o ferched o gwmpas y bwrdd yn yfed te ac yn son am ormes dynion a'r cam yr oeddynt yn ei wneud â merched. Gyrrais y