Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/118

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

plant i'r gegin i'w canol ac euthum fy hun ar fy union i'r dafam agosaf. Bum yno tan amser cau. Erbyn i mi fynd adref, 'doedd yno na swper na dim yn fy aros, a bu raid i mi ei wneud fy hun.

Y mae mis er hynny bellach, ac y mae pethau yn mynd yn waeth bob cynnyg. Y mae'r ty yn anrhefnus a'r plant yn fudron, waeth dywedyd y gwir na pheidio, ac y mae acw bwyllgor bob yn eildydd, ac ni fedraf ddywedyd mai myfi biau fy nhy fy hun. Ydi, ŵyr dyn, y mae hi yn ddrwg gynddeiriog acw.