Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/119

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XV. FFRAE LECSIWN LLANGRYMBO.

BU helynt arswydus yn Llangrymbo gryn lawer o flynyddoedd yn ol. Aeth y trigolion yn benben, er na wyddai neb yn iawn pam. Y lecsiwn fu'r achlysur, sut bynnag, yr oedd hynny yn sicr; ond y mae cryn dywyllwch ynghylch cychwyniad yr helynt. Yn hytrach, yr oedd cryn dywyllwch yn ei gylch. Bellach, yr wyf fi yn abl i daflu goleuni ar y mater. Nid trwy fy nghlyfrwch fy hun ychwaith, ond trwy allu a dyfalwch fy hen ewythr, a fu farw ryw ychydig amser yn ol, ac a adawodd ei bapurau—yr unig gynysgaeth, gwaetha 'r modd!—i mi. Y mae yn y papurau hynny lawer o bethau dyddorol, ac yn eu plith, oleuni ar Ffrae Fawr Llangrymbo.

Ond cyn rhoi hanes yr helynt, rhaid i mi ddywedyd gair neu ddau am fy ewythr, fel y caffoch bob chware teg i farnu ei waith. Teiliwr oedd fy ewythr wrth ei alwedigaeth, a theiliwr go sal, y mae arnaf ofn, canys gadawodd yr alwedigaeth yn gynnar, a throes yn ohebydd papur newydd. Y peth a'i harweiniodd i'r alwad ardderchog honno oedd, ddarfod iddo pan oedd yn hogyn ifanc ennill gwobr o hanner coron mewn cyfarfod llenyddol am y traethawd goreu ar Hanes Llangrymbo.