Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/120

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cafodd y traethawd hwnnw gymaint o ganmoliaeth gan y beirniad fel y credodd fy ewythr yn y fan mai nid teiliwr oedd o wrth natur, ond llenor. Felly, anfonodd hanes y cyfarfod llenyddol i'r Corn Gwlad, a chafodd ei benodi yn union deg yn ohebydd lleol i'r papur enwog hwnnw. O dipyn i beth, gwnaed ef yn ohebydd arbennig i'r papur clodwiw, ac yr oedd ganddo ddarn mawr o wlad tan ei ofal. A gofalodd am dano cystal am flynyddoedd fel na byddai ddim yn digwydd yno heb fod gan f'ewythr baragraff am dano yn y papur—y "Newyddiadur," fel y byddai o yn ei alw. Yr oedd gan yr hen greadur fath o law ferr at ei wasanaeth, un na fedrai neb ei deall ond efô ei hun. Yn wir, byddai yn methu a'i deall ei hun ar brydiau, a chafwyd ambell is-olygydd digon drwg i ddywedyd nad oedd wahaniaeth yn y byd rhwng ei law ferr â'i law hir; ond yr wyf yn sicr mai ar yr is-olygydd a'r cysodydd yr oedd y bai fod rhai o'i baragraffau yn awr ac yn y man yn dyfod allan yn y papur yn hollol groes i'r hyn oedd ym meddwl fy ewythr. Er engraifft, yr oedd o unwaith wedi ysgrifennu hanes marwolaeth a chladdedigaeth hen gyfaill iddo, ac wedi ei orffen fel y canlyn, —

"Yr oedd yn noddwr cyson i'r Corn ar hyd ei oes faith, ac yn codi'r canu yng nghapel Seion. Heddwch i'w lwch, yr hen bererin anwyl!"