Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/121

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Synnwyd pawb, pan gawsant y Corn Gwlad, weled y paragraff yn gorffen fel hyn, —

"Yr oedd yn naddwr creulon i'r corn ar ei goes chwith, ac yn cadw'r cnau yng nghawell Sion. Hed uwch ei lwch, yr hen Feri Elin anwyl!"

Achosodd peth fel hyn gryn helynt lawer tro, wrth gwrs, ond er i f'ewythr anfon i'r offis i gwyno lawer gwaith, ni welodd y cnafon yn dda gymryd mwy o ofal gyda'i gopi nag a gymerasant o'r blaen.

Ond dyna, hwyrach, ar hyn o bryd, ddigon am fy ewythr. Awn at ei waith yn ysgrifennu hanes helynt Langrymbo. Yr oedd hi yn lecsiwn yno, fel y dywedwyd, ac aeth yn helynt mor erwin fel yr aeth y bobl yn benben. Yn naturiol iawn, aeth fy ewythr ati i chwilio am achos y ffrae, cafodd hyd iddo, ysgrifennodd ef yn ofalus a chywir ar gefn hen boster â phast arno, ac anfonodd ef i'r swyddfa. Gallwn feddwl fod yr is-olygydd ar y pryd yn rhy ddiog i'w ddarllen, canys y mae dalen o bapur gwyn wedi ei phinio wrth y copi, ac yn ysgrifenedig arni mewn llaw led blaen y geiriau hyn—"Dylai'r dyn a ysgrifennodd hwn gael ei grogi! 'Does yma neb fedr ei ddeall."

Collodd yr is-olygydd hwnnw ei gyfle. Yr wyf fi wedi darllen y copi. Ac nid wyf fi yn is-olygydd. Felly, dylasai o fedru gwneud. Sut bynnag, y mae'n debyg fod