Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/122

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fy ewythr wedi digio a chadw ei gopi yn hytrach na'i ail ysgrifennu a'i ddanfon i'r is-olygydd diog. Bellach, gellir yn ddiogel gyhoeddi'r hanes, gan mai f'ewythr oedd y diweddaf o'r bobl y mae son am danynt ynddo. Dyma fo, wedi ei godi air am air o gopi yr hen ddyn druan, fel y gweler ei arddull lenyddol odidog, —

"Bu helynt ofnadwy yn nhref Langrymbo yr wythnos ddiweddaf parthed yr etholiad, fel y cyhoeddwyd yn ein rhifyn diweddaf yn fyrr. Y pryd hwnnw, nid oedd ein gohebydd mewn meddiant llawn o ffeithiau yr achos, ac o ganlyniad i hynny nis gallai roddi hanes manwl a chywir am yr hyn a gymerodd le yn y dreflan dawel hon. Erbyn hyn, y mae ein gohebydd wedi gwneud ymchwiliad llwyr i'r achos, ac yn alluog i roddi ger bron ein darllenwyr hanes cyflawn am yr hyn a ddigwyddodd.

"Fel y gwyddis, yr oedd yr etholiad ar ei ganol ar y pryd, ac yr oedd teimladau yn rhedeg yn uchel iawn yn y dref. Yr oedd rhai yn pleidio'r Rhyddfrydwr ac ereill yn pleidio'r Ceidwadwr yn selog. Ymddengygs fod dau ddyn wedi cyfarfod ar yr heol noswaith yr helynt, ac wedi mynd i son am bwnc llosgawl y dydd (a'r nos hefyd). Y ddau hynny oeddynt John Dafis, Rhyddfrydwr pybyr, a Huw Jones, Tori rhonc, fel y dwedir. [Dylid cofio mai Rhyddfrydwr oedd fy ewythr.] Dechreuasant ymddiddan fel y canlyn, —