Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/125

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

'Pwy sy'n bethma?'

'Y chi, dyna pwy!'

'Cymrwch hwnna!'

"Gyda'r gair, dyma Huw Jones yn rhoi dyrnod i John Dafis ynghanol ei wyneb. Cyn pen dau funud, yr oedd John Dafis wedi ei dalu yn ol gyda llog. Aeth yn ymladdfa wyllt, a chyn pen ychydig eiliadau, daeth tri neu bedwar o ddynion ereill yno, sef Dafydd Gruffydd, Wil Ifan, Sion Puw, a Ned Dafis. Gofynnodd Wil Ifan beth oedd yr helynt rhwng y ddau.

'Deyd yn bod ni y Toris yn bethma ddaru o!' ebe Huw Jones.

'Ond ydech chi hefyd!' ebe Wil Ifan yn ffyrnig.

'Nag yden ni ddim, y chi, yr hen Wigs budron yma sy'n bethma!' ebe Ned Dafis (Ned un Llygad).

"Aeth yn ffrwgwd rhwng y chwech ar hynny, tri o honynt yn perthyn i bob plaid. Yr oedd John Dafis a Wil Ifan yn gweiddi nerth eu pennau—'Rydech chi yn bethma, bob copa ohonoch chi!' Ac ar yr ochr arall, yr oedd Huw Jones a Ned un Llygad yn gweiddi â'u holl egni hwythau—'Na, y chi sy'n bethma, y cnafon gynnoch chi!'

"Daeth ereill yno ar ffrwst wrth glywed y swn, a deallasant mai ffrae ydoedd rhwng y naill blaid a'r llall ynghylch pwy oedd yn bethma. Cyn pen ychydig eiliadau, yr oedd y frwydr yn gyffredinol. Daeth yr heddgeidwad i'r