Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o i gut arall â gwal uwch o'r hanner. Dyma fo drosti rhag i flaen. Fuo fo byth yn gi bach wedyn.

"Dal pethau? Braidd. Daliodd ddeg o dyrchod daear yr wythnos ddwaetha. Choeli di ddim? Aros, ynte. Twrc? Twrc?—Twrch?"

Gyda bod fy mrawd wedi galw, dyma Dwrc yn moeli ei glustiau, yu rhoi ysgydwad i'w ben, a chwythad drwy ei ffroen— fel y gwelsoch ambell hen gnowr tybaco—— yn codi ei gynffon, ac ymaith ag o tua 'r cae tatws yr ochr draw i'r buarth.

"Rhŵ-ŵ-ŵ-ŵ-necc!"

Daeth rhyw swn tebyg i hynyna o'r cae, a'r munnd nesaf, dyna Dwrc i'r golwg a thwrch daear ganddo gerfydd ei gynfon!

Dyna iti lythyren y gyfraith!" ebr fy mrawd.

"Beth?" meddwn innau. "Welais ti gi o'r blaen yn rhywle a wyddai wahaniaeth rhwng y naill lythyren â'r llall?"

"Beth ydi dy feddwl di?"

"Wyt ti ddim yn gweld? Be ddeydais i wrth y ci?—Twrc?—Twrc?—Twrch! onid ê?"

"O, mi welaf!" meddwn.

"Pe tase fo cyhyd â thi yn gweled, lle base'i dwrch o?"

"Byd a'i gwyr!"

Troisom i edrych arno. Nid oedd Twrc yn y golwg. Yr oedd y twrch daear ar lawr a'i dorr i fyny, ac yn rhoi'r ddau