Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

diweddyno fasnach fywiog, yn enwedig yn yr haf, pan fyddai cannoedd o bobl yn dyfod yno i dreulio eu gwyliau ar lan y môr. Ychydig iawn o'r hen drigolion oedd yno mwyach. Yr oedd hyd yn oed yr hen bentref yn y gwaelod wedi diflannu, a chasgliad o dai newyddion wedi cymryd ei le. Nid oeddynt yn edrych mor fudron â'r hen dai, ac nid oedd yno gymaint o arogl lludw a dwfr budr ag a fyddai gynt. Ond nid oedd llawer o ddiolch am hynny, gan fod y lludw bellach yn cael ei gario ymaith bob dydd, a bod pibellau wedi eu gosod yn y ddaear i gario dwfr budr ymaith i'r môr, lle'r oedd y bobl fawr a fyddai yn dyfod yno yn yr haf yn ymdrochi, a'r hylif cymysg o heli a charthion yn ol pob tebyg yn gwneud lles mawr iddynt.

Felly yr oedd pethau bellach, y noswaith y daeth y dyn canol oed o'r tren yn y stesion ac y diolchodd am gael dwad o'r diwedd.

Dyn tua phump a deugain oed ydoedd, yn dal a golygus, ond a'i wallt yn wyn fel y llin. Yr oedd golwg iach ar ei dalcen. Yr oedd gydag ef ddynes tua'r un oed ag yntau, ac wrthi hi y llefarodd y geiriau a ddyfynnwyd ar y dechreu. Yr oedd hithau yn dal a shapus, ond yr oedd rhychau ar ei thalcen, a'i gwallt, a fu unwaith yn felyngoch, bellach wedi troi yn felynwyn.

"Ie," ebr hithau wrtho, "diolch am gael dwad o'r diwedd!"