Ie, yr hen Dyddyn Huwcyn druan! Dyn byw, 'roeddwn i yn ffryndie hefo'r hen bobol, coffa da am danyn nhw. Oeddech chi yn eu nabod nhw, syr?"
"Oeddwn. Fy nhaid a nain."
"Yr holl allu! Nid Dafydd ydech chi?"
"Ie, siwr, a dyma Elin, fy ngwraig i, merch y Dafarn Goch ers talwm ——."
"Trugaredd fawr, wel, mae'n dda gen i'ch gweld chi! Ydech chi ddim yn cofio'r hen dowr, Huw Dafis y Towr?"
Ysgydwasant ddwylaw, a buont yn siarad yn hir am yr hen amser, a dywedodd yr hen wr mai fô oedd bron yr unig un oedd yn fyw o'r hen drigolion.
"Ac yr ydech chi wedi dwad yr holl ffordd o'r America i weld yr hen gartre?" meddai'r hen wr. "Wel! ac i ble'r ydech chi am fynd?"
"Yn ein hole rhag blaen," ebr Dafydd, "does yma ddim lle i ni! Tyrd, Elin!"
Ac ymaith a hwy.