Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oeddwn erioed wedi gweled tref gymaint o'r blaen, nag erioed dref a hen gastell ynddi, ac yr oedd mynd i'r dref yn beth pwysig. Bum yno hwyrach yn hwy nag oedd raid, yn cerdded o gwmpas ac yn fflatio fy nhrwyn ar ffenestri siopau. Bum hefyd yn edrych yn hir ar yr hen gastell, ac yn dychmygu faint o bethau rhyfedd a ddigwyddodd yn yr hen le mawreddog hwnnw erioed.

Ond o'r diwedd, cychwynnais adref, a'r neges gennyf. Torth a thipyn o de a siwgr ydoedd, os da'r wyf yn cofio, at wneud tamed i fy nhad a'm mam a'r brawd bach pan ddeuent. Pan oeddwn ar gwrr y dref ar fy ffordd adref, deuthum i brofedigaeth.

Yr oedd yno haid o hogiau yn chware yn ymyl capel. Gwelsant fi, a deallasant fy mod yn hogyn dieithr. Wrth gwrs, yr oedd am hynny yn ddyled arnynt luchio cerrig ataf. Gwnaethant hynny yn egniol. Os gwnaethant bob dyledswydd o hynny hyd hyn cystal, rhaid eu bod yn ddynion go lew.

Prun bynnag am hynny, pan ddechreuodd y cerrig ddisgyn yn gawod o'm cwmpas, teimlais fod gennyf finnau ddyledswydd. Dechreuais daflu'r cerrig yn ol atynt hwythau.

Gan fod yno o leiaf hanner dwsin ohonynt hwy a dim ond un ohonof finnau, bu raid i mi encilio yn raddol o flaen yr ymosod. Gwneuthum hynny gan ymladd oreu gallwn. Bu'r chwech wrthi am