Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chwarter awr o leiaf yn fy ngyrru led cae, ond er fy mod yn dal fy nhir yn gyndyn, cilio yr oeddwn. Hyd hynny, nid oeddwn wedi cael fy nharo, er fod hynny wedi digwydd i un neu ddau o'r ymosodwyr. Haws taro un o chwech nag un ar ei ben ei hun, hwyrach. Prun bynnag, cyn bo hir, cefais ergyd yn fy mraich a'm gwnaeth yn llai abl i'm hamddiffyn fy hun. Ond fe'm creulonodd, ac yr oeddwn dipyn yn gyndynnach nag o'r blaen, ac yn lluchio yn ddygnach. Yr oedd y frwydr yn ffyrnicach, ond yr oeddwn yn encilio'n arafach, er mai encilio o hyd yr oeddwn.

Yr oedd pethau yn edrych yn hagr arnaf, a'm braich yn brifo yn arw. Yr oeddwn yn dechreu meddwl mai rhedeg a fyddai ddoethaf. Pa beth allai un yn erbyn chwech? Ac yr oeddwn eisoes wedi gwneud mwy o ddifrod arnynt hwy nag a wnaethent hwy arnaf fi. Credwn rywfodd na byddwn yn rhyw lwfr iawn pe buaswn yn rhedeg.

Yr oeddwn ar droi a ffoi.

Yn sydyn, dyma gi heibio i mi. Rhoes ddau neu dri thro o'm cwmpas, cyfarthodd, ac yna, fel mellten, ymaith ag ef am yr hogiau ereill, gan gyfarth yn ffyrnig.

Gwell un ci da na chwe hogyn drwg.

Cyn pen eiliad, yr oedd yr hanner dwsin wedi troi a ffoi. Rhedasant yn gynt na chyffredin, a'r ci ar eu holau yn cyfarth ei hochr hi.