Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oeddynt yn diflannu o'r golwg mewn tro yn y ffordd ym mhen dim amser. Yr wyf yn gweled eu sodlau y munud yma. Ie, dyna hwy wedi mynd, a'r ci ar eu holau.

Prin y cawswn amser i feddwl. Digwyddodd y cwbl mor sydyn. Wedi myned yr hogiau a'r ci o'r golwg, cerddais innau tuag adref, gan feddwl ynof fy hun ei fod yn beth rhyfedd iawn i gi dieithr felly gadw chware teg mor brydlon i mi. Byddwn bob amser yn ffrynd i gwn (yr wyf felly eto), a thybiais mai rhyw gi ydoedd hwn wedi cymryd ataf yn sydyn heb unrhyw reswm arbennig dros hynny, ond mai fi oedd y gwannaf.

Yr oeddwn yn cerdded tuag adref gan feddwl am y peth.

Yn sydyn, dyma gi heibio i mi drachefn. Troes o'm cwmpas nid wn i ba sawl gwaith, gan gyfarth ac ysgwyd ei gynffon, neidio a'i draed blaen ar fy mynwes a llyfu fy nwylaw.

O wir ddiolch iddo am ei gymwynas â mi yn fy nghyfyngder, rhoddes innau anwes iddo, ac yna, daeth yn ei flaen i'm canlyn fel pe buasem yn hen gydnabod.

Y mae'n resyn na fedrai cwn siarad. Yr wyf yn berffaith sicr eu bod yn ceisio eu goreu, ac yn gwbl sicr hefyd y byddai ganddynt lawer amgenach ysgwrs nag aml i ddyn. Ond ni roddwyd iddynt allu siarad, hyd yma; ac felly nid oeddwn innau fymryn nes i wybod pam y gwnaeth y ci hwnnw gymwynas â mi.