Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cerddasom ill dau yn ein blaenau, ac yntau bob yn ail a pheidio yn llyfu fy llaw ac yn sefyll o'm blaen gan ysgwyd ei gynffon, a golwg mor gall a deallus arno.

Deuthom at fuarth y ffarm. Troais i mewn. Daeth y ci i'm canlyn. Euthom ymlaen at y ty. Aeth yntau o'm blaen, a phan oeddwn i yn cyrraedd y drws, yr oedd yntau yn mynd i mewn.

"Hylo, Sam, 'y ngwas i, o ble doist ti?"

Clywais y geiriau hyn. Gwraig yr hen denant oedd yno. Yr oeddynt yn mudo y diwrnod hwnnw, ac yr oedd hi wrthi yn gwneud llymed o de ar fwrdd bychan yn y gegin i'w yfed cyn cychwyn, a'r drol ar y buarth yn disgwyl i'w chymryd hi a'r bwrdd a'r ychydig fân bethau oedd eto ar ol, ymaith i'r lle newydd.

A'r funud honno, cofiais innau fy mod wedi gweled Sam o'r blaen.

Hanner blwyddyn cyn hynny, yr oeddwn yn y ffarm gyda fy nhad, sef Galan Gaeaf, pan oedd rhan o'r tir yn dyfod gyntaf i feddiant y tenant newydd. Yr oedd fy nhad a minnau wedi dyfod yno ar dro, ac yr oeddwn i yn digwydd bod yn sefyll ar y buarth ym mrig yr hwyr, pan ddaeth gwas yr hen denant adref gyda'r wedd o'r ffarm yr oedd hwnnw yn symud iddi. Yr oedd y gwas a'r wedd wedi bod yn y lle hwnnw am fis, o leiaf. Yr oedd Sam gydag ef yno ar hyd yr amser, a phan gafodd ei hun unwaith yn rhagor yn