Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei hen gartref, teimlodd yn ddiau yn falch ac yn llawen.

Danghosodd ei falchter drwy roi rhyw gyfarthiad a dechreu rhedeg o gwmpas. Tybiodd yr ieir a'r hwyaid oedd ar y buarth mai rhedeg ar eu holau hwy ydoedd ei amcan, a dechreuasant esgyllio o gwmpas gan wichian yn arw. Yr oedd y gwas wrthi yn dadfachu'r wedd oddi wrth y drol ar y buarth. Tybiodd yntau, fel y cydnabu wrthyf wedyn, mai rhedeg ar ol yr ieir yr oedd Sam, a chymerodd y chwip a fflangellodd ef.

Rhaid fod y gwas hwnnw mewn tymer go ddrwg ar y pryd neu ynte ei fod yn un creulon wrth natur, canys chwipiodd y ci yn llawer gwaeth nag y dylasai, hyd yn oed a chaniatau ei fod wedi rhedeg yn fwriadol ar ol yr ieir a'r hwyaid.

Gwaeddodd Sam yn druenus, a chiliodd tuag ataf fi a'i gynffon yn ei afl ac un droed i fyny, a'r llanc ar ei ol a'r chwip yn ei law.

"Peidiwch, peidiwch," meddwn innau, gan sefyll rhyngddynt, "wnaeth o ddim i'r ieir—rhyw chware yr oedd o, dyna'r cwbwl."

"Chware yn wir, mi dysga i o!" ebr y gwas, gan fynd yn ei ol yn anfoddog.

Anwesais innau y ci, a daeth yntau gyda mi i'r ty. Bu yn gorwedd ar lawr wrth fy nhraed drwy'r dechreunos, ac yn cael tamed o'm swper. Weithiau, gwthiai ei drwyn i'm llaw, tynnwn innau fy llaw hyd ei ben, a llyfai yntau hi yn hir