Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd hi yn noswaith hyfryd ym mis Medi. Yr oedd y meusydd ŷd yn wynion, a'r meusydd porfa yn wyrddion iawn. Yr oedd dail y coed eisoes yn dechreu troi eu lliwiau, a rhyw dristwch distaw yn gorffwys ar bopeth. Felly, o leiaf, y teimlai Morris. Cerddai yn ei flaen yn araf o hyd, gan edrych o gwmpas yn awr ac eilwaith ac yna edrych ar lawr am yn hir.

Daeth o'r diwedd at groesffordd, ac yno, heb betruso o gwbl, troes o'r ffordd fawr, a cherddodd yn ei flaen yn araf fel o'r blaen hyd ryw hen lôn las, a gwrych uchel o bobtu iddi.

Cerddodd yn ei flaen nes daeth at fwthyn bychan tô gwellt a gardd o'i flaen.

Yr oedd penwar bychan yn agor o'r ffordd i'r ardd, a llwybr yn arwain at ddrws y tŷ. Yr oedd yno ddigonedd o flodau tlysion o bob math yn yr ardd, a hocys tal a blodau o bob lliw arnynt yn eu plith.

Heb sylwi ar y blodau na dim arall, agorodd Morris y penwar, aeth drwodd, caeodd ar ei ol a cherddodd yn araf hyd y llwybr at y tŷ. Yr oedd y drws yn agored. Aeth Morris i mewn heb guro, ac aeth ac eisteddodd ar gadair wrth y tân, bron dan yr hen fantell fawr gysgodol.

Yr oedd y lle yn berffaith ddistaw. Nid oedd yno neb ond efô ei hun, na neb yn agos—o leiaf, nid oedd swn neb i'w glywed nag yn y tŷ nag yn yr ardd o gwmpas.

Dododd Morris bwys ei fraich ar y bwrdd a'i ben ar ei fraich, ac yn fuan iawn, yr oedd yn cysgu yn drwm.