Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wedi mynd i'r môr ac wedi colli yn rhywle ers llawer o amser. Bu Sion heb wybod yr hanes am flwyddyn a hanner neu ddwy flynedd ei hun, a phan ddaeth i dir o'r diwedd a chlywed fod llong ei fab ar goll ers deunaw mis, edrychodd ar y môr yn hir ac yn graff, sychodd ddeigryn o'i lygad ac yna ymostyngodd i'r dynged fel dyn, neu yn hytrach fel morwr. Bu ar led ei hun am flynyddoedd wedi hynny, ond o'r diwedd yr oedd yr hen forwr cadarn ar y lan, fel hen long wedi ei dryllio a'i thaflu ar y traeth gan y tonnau i fynd yn ddarnau yn araf deg dan bwys y tonnau a dannedd y graig.

Ac yn Llaneigion y glaniodd Sion Morys am y tro olaf. Cymerodd lety yno, mewn tŷ ar lan y môr, lle'r oedd hen gydnabod iddo gynt yn byw. Yno yr wyf fi yn ei gofio gyntaf, yn hen ŵr deg a thrigain oed, a'i wallt a'i farf yn wyn fel y llin, neu yn hytrach

"Fel ewyn y donn pan fo'n creuloni,
A mawr rhuolwynt ar y môr heli."

Yr oedd ei wyneb yn rhychau dyfnion, a'i ddwylaw yn gelyd fel haearn. Cerddai yn araf, gan grymu tipyn ar ei gefn, a gellid ei weled bob dydd, haf a gaeaf yr un fath, yn mynd am dro i lan y môr. Byddai yno yn cerdded ar y traeth am oriau bob dydd, ni waeth pa fath dywydd a fyddai. Yn wir, pan fyddai yn ystorm, byddai Sion Morys yno yn hwy na phan fyddai yn braf, a pho ffyrnicaf yr ystorm,