Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dyn bychan ag wyneb gwastad, hir ganddo; barf wedi ei thorri yn weddol ferr; ei wefus uchaf wedi ei heillio yn lân; llygaid gleision, bychain; talcen mawr a choryn moel.

"Wel," eb efô, ac yr oedd ei lais rhwng cras a pheidio, "wel, rhaid i mi ddechre, mae'n debyg. 'Roeddwn i yn disgwyl fy somi yn Gruffydd, waeth i mi ddeyd y gwir na pheidio. Welis i erioed ddim byd neilltuol iawn ynddo fo, er fy mod yn gwybod i fod o yn fachgen da. Un o'r bechgyn hynny sy'n edrych weithie yn rhy dda i ryw greadur fel fi."

Tawodd Tomos Dafis am ennyd. Yn ei ieuenctid, bu Tomos yn dipyn o fraddug, ond bellach nid oedd amheuaeth am ei dduwioldeb.

"Mi fydda i," meddai yn araf, "yn meddwl y dyle pregethwr fod yn gwybod tipyn am demtasiyne'r bobol y bydd o yn mynd i bregethu iddyn nhw. Ni chlywis i erioed gystal pregethu â phregethu ambell i hen bechadur go ffyrnig wedi cael gras. Ond waeth heb fynd y ffordd yna heno. 'Roeddwn i yn disgwyl fy siomi yn Gruffydd. Ac mi ges fy somi hefyd."

Tawodd Tomos Dafis drachefn, ac yr oedd pawb bron yn dal eu hanadl. Yr oedd Gruffydd wedi plesio pawb. Sut yr oedd Tomos Dafis wedi ei somi? Dyna oedd ym meddwl pob dyn a dynes yno.

" 'Roeddwn i," ebr Tomos Dafis, yn araf, "yn disgwyl rhyw bregeth dila, fel fyddwn ni yn arfer gael gan y bechgyn