Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yma, gan Gruffydd, ond yn lle hynny mi gawsom bregeth addawol dros ben gynno fo."

Anadlodd pawb yn rhydd, ac aeth Tomos Dafis yn ei flaen.

"Yr oedd yn dda dros ben gen i gael fy somi, ar yr ochor ore," ebr efô. " 'Rydw i yn meddwl y gwneiff yr hogyn bregethwr da. Mae gynno fo feddwl yn perthyn iddo fo'i hun, a dawn i'w ddeyd o. Waeth i mi heb ddeyd chwaneg. 'Roedd llawer o feie yn i bregeth o, mae'n siwr. Cofia di hynny, Gruffydd, machgen i, a phaid a mynd i feddwl gormod ohonot dy hun. Ond 'rydw i yn deyd yn dy wyneb di mod i wedi mhlesio yn fawr yn dy sylwade di nos Sul. O'm rhan i, mi gei fynd yn dy flaen."

Galwodd William Huws ar un arall o'r blaenoriaid, ac ar amryw o'r aelodau, a chafwyd gan bob un ohonynt air da iawn i bregeth Gruffydd Jones. Yr oedd pawb wedi synnu ato, ac yn harod iawn i roi pob cefnogaeth iddo. Yr oeddynt yn sicr y byddai yn bregethwr mawr, ac yr oedd y meddwl am godi pregethwr mawr yn y Capel Bach wrth fodd yr eglwys i gyd. Rhoed y peth ger bron, a chafwyd pawb yn unfryd dros roi cennad i Gruffydd Jones fyned rhagddo yn ol rheolau y cyfundeb. Rhoes William Huws, Tomos Dafis, John Jones, ac Edward Williams, y blaenoriaid; a John Parry a William Ffowcs, y ddau a gredai y dylasent hwythau fod yn flaenoriaid ers blynydd-