Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd, res o gynghorion buddiol iawn iddo ar ddechreu ei yrfa. Ac yr oedd cyngor William Huws yn un nodedig, fel arfer.

"Gruffydd, machgen i," eb efô, " 'roeddwn i yn teimlo wrth wrando arnat ti nos Sul fod gen ti rywbeth i'w ddeyd, a'th fod ti yn i ddeyd o fel ti dy hun, ac nid fel rhwfun arall. Wel, dal di at hynny. Dyna'r unig ffordd onest. 'Dalla i ddim aros y bobl yma sy heb ddim i'w ddeyd eu hunain, y rhai sy'n byw ar ryw hanner deyd meddylie pobol ereill. Cadw atat dy hun, beth bynnag wnei di, mi fyddi yn rhywbeth felly, goelia i."

Yr oedd Gruffydd yn wylo yn dost wrth wrando ar y cynghorion hyn. Tybiai llawer mai ei grefyddolder oedd yn peri iddo wylo, a thybiai ereill ei fod yn teimlo dros Idwal, oedd i gael ei dorri allan, canys yr oedd y ddau yn hen gyfeillion, wedi chware gyda'i gilydd, ac yn cydweithio yn y gwaith mwyn.

Bu distawrwydd, ac yna cododd William Huws ar ei draed yn sydyn.

"Mae gynnon ni ddyledswydd arall," meddai, "ac un gas ydi hi. Ond rhaid gwneud dyledswyddau cas. Dylem eu gwneud hwyrach yn fanylach a mwy gofalus na rhai fel arall. Waeth heb fynd i son llawer am y peth. Yr ydech chi i gyd yn gwybod yr hanes. Mae Idwal Wmffre, bachgen wedi ei fagu yn y seiat yma, wedi troi yn fachgen drwg. Mae o wedi troi yn feddwyn cyhoeddus, ac y mae o wedi tynnu un arall i'w ganlyn i