Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

drwbwl, ond 'does a wnelo ni yma ddim â'r un honno. Yr oedden ni yn disgwyl llawer oddiwrth Idwal. Gwyddem fod ei dad a'i fam yn dalentog, a chawsom brofion ei fod ynte yn meddu doniau nodedig iawn. Clywais un o'n gweinidogion sy'n fardd yn dywedyd y gwnai Idwal ei farc os ceisiai. Ond y mae o ar y llwybr drwg. Mae'n boen i mi feddwl am i dorri fo allan, yn boen fawr. Ond 'does dim arall i'w wneud. Rhaid i ddiarddel o."

Cododd Tomos Dafis yn araf. Yr oedd golwg ryfedd ar ei wyneb.

"Wel," meddai, "mewn un ffordd, mi faswn yn hoffi medru amddiffyn Idwal. Mae o ar lawr, ac yr ydym ninnau yn mynd i'w gicio allan. 'Does mo'r help. Rhaid gwneud hynny, Eto, cofiwn nad ydi'n dyledswydd ni ddim yn darfod wedi i ni i droi o dros y drws. Gadewch i ni geisio i ddwyn o yn i ol, ac os medrwn ni, mi wneiff well dyn, 'dydw i yn ame dim, na phe base fo erioed heb lithro."

Bu distawrwydd drachefn. Yr oedd Gruffydd yn wylo o hyd. Yr oedd Idwal yn edrych yn graff ar Tomos Dafis, ond nid oedd ddeigryn yn ei lygad o. Edrychai pawb arno yn eu tro, ond nid oedd Idwal yn newid ei wedd nac yn gwingo o gwbl. Yr oedd rhai eisoes yn dechreu teimlo ei fod yn wyneb galed, ac yn haerllug iawn, ac ereill yn rhyw gydymdeimlo âg o, ar eu gwaethaf.

"Oes gen ti rywbeth i'w ddeyd dy hun, Idwal?" ebr William Huws.