Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

VII. YSMALDOD Y SAIS MAWR.

Y MAE llawer blwyddyn er pan ddaeth y Sais mawr i'r ardal i fyw. Pan ddaeth, nid oedd ganddo syniad yn y byd am Gymru na dim Cymreig. Yn wir, nid oedd ganddo y syniad lleiaf fod dim ar wyneb y ddaear yn bosibl ond Sais a Saesneg. Os oedd ganddo ddamcaniaeth ar y pwnc o gwbl, gallem feddwl mai Sais oedd yr hollalluog yn ol ei syniad ef, ac mai Saeson oedd holl bobloedd y byd ar y dechreu, ond eu bod wedi dirywio a mynd yn bechaduriaid mawr a mwy yn ol y radd yr ymbellhasant oddiwrth fod yn Saeson. Felly, pan ddaeth i Gymru a chlywed iaith ddieithr iddo a gweled arferion estron, deallodd ar unwaith fod y Cymry yn bechaduriaid aruthr. Rhaid eu bod. Nid oedd dim arall yn bosibl. A hwy yn byw yn ymyl y Saeson, eto dewisent fod yn Gymry. Yr oeddynt, y rhan fwyaf ohonynt, yn medru rhywfaint o Saesneg, ac eto yn dewis siarad rhyw gawdel o gydseiniaid, fel y tybiai ef, heb ystyr yn y byd iddynt, ac heb fod yn bosibl eu swnio heb i ddyn dorri ei gorn gwddw neu roi ei dafod o'i le.

Wrth gwrs, penderfynodd y Sais ar unwaith nad oedd ystyr yn y byd i'r geiriau a lefarai y Cymry wrth ei gilydd, ac