"Felly, yn wir," meddai'r doctor, "enw hynod beraidd a hawdd i'w ddywedyd, yn siwr."
"Ie," ebr y Sais, "nid rhyw dwrr o gydseiniaid na fedr neb eu swnio."
"Nage, 'ddyliwn," ebr y doctor.
"Ond rhyw bobl heb ddim digrifwch nag ysmaldod yn eu natur ydych chwi, y Cymry," meddai'r Sais.
"Ie, mae'n debyg," ebr y doctor.
"Ie yn siwr," ebr y Sais, "yn siarad rhyw iaith mor ddychrynllyd fel hyn o hyd. Fum i 'rioed mewn gwlad a'r bobl yn siarad cymaint o'u hiaith eu hun ynddi."
"Aie?" meddai'r doctor. "Fuoch chi 'rioed yn Lloegr?"
" 'Rioed yn Lloegr? Wel do, debyg iawn. Lle'r 'rydech chi yn meddwl mod i wedi bod, syr?"
"O, be wyddwn i," ebr y doctor, " 'roeddwn i yn meddwl—wel, wn i ddim be, wrth gwrs. Mae arna i ofn mod inne, fel fy nghydwladwyr, yn amddifad iawn o bob syniad am ddigrifwch ac ysmaldod."
"Mae'n siwr," meddai'r Sais, "os oeddech chi yn meddwl na fum i erioed yn Lloegr."
"Ie, wel, 'does mo'r help," ebr y doctor.
"Beth ydyw enw y pentref nesaf yma hefyd?" ebr y Sais.
"Pa un, y nesaf ar y dde?"
"Ie siwr."