"O, Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch," meddai'r doctor, gan edrych cyn sobred â sant.
"Y nefoedd fawr!" ebr y Sais. "Y fath dryblith! Wn i ddim sut y mae neb yn medru dywedyd y fath beth, a byw! Dywedwch yr enw eto."
Dywedodd y doctor ef yn bwyllog a difrif fel o'r blaen.
"Ac y mae hwnyna yn enw ar ryw bentref bychan fel yna?" meddai'r Sais mewn syndod.
"Ydyw," ebr y doctor, yntau mewn syndod hefyd.
Ni wyddai y meddyg pa beth a ddygodd y fath beth i'w ben, ond ni chlywodd mo'r enw erioed ei hun o'r blaen. Daeth dros ei wefusau bron ohono ei hun. Synnai fod y fath gasgliad o eiriau wedi taro i'w feddwl o ei hun rywsut, ond yr oedd yn synnu mwy fod neb ar y ddaear wedi cymryd yr ysmaldod o ddifrif.
Yr oedd y Sais Mawr sut bynnag, cyn sobred â sant, ac yn murmur wrtho'i hun, "tremenjus! tremenjus!"
Toc, troes at y doctor.
"Buaswn yn hoffi medru dyweyd y gair yna!" meddai. "Buaswn felly yn torri pob record!"
"Yn ddiameu, i Sais!" ebr y doctor yn ddifrifol.
"A wnewch chwi fy nysgu i, ynte?"
"Wel, gwnaf, os medraf," meddai'r doctor yn ddifrif o hyd.
"O'r goreu!"