Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

asai fyw yn dda ar hyd ei oes. Yr oedd yr ystumog genedlaethol ganddo. A gwnaeth fwy na chware teg â hi am ran helaeth o'i oes. Buasai farw yn llawer cynt oni bae iddo feddwl am dorri'r record fel y gwnaeth. Tynnodd hynny dipyn o'i sylw oddiar ei ystumog a'r modd i'w bodloni. Ond y mae lle i ofni na ddarfu ond symud y pwys hefyd. Yn lle bod ei ymborth yn bwys ar ei ystumog, aeth y record yn bwys ar ei ben. Ac i'r lle gwannaf y mae popeth yn mynd, wrth gwrs. Pa beth bynnag oedd yr achos, yr oedd y parlys wedi gafael yn y Sais Mawr, o'r diwedd.

Ond nid ar ei leferydd, ond ar ei freichiau a'i goesau. Nid ŵyr y meddyg yn iawn hyd heddyw pa un ai bwyd a diod, ai Llanfair Pwll Gwyngyll, &c., a'i lladdodd.

Yr oedd y meddyg un noswaith yn sefyll wrth erchwyn ei wely. Yr oedd yn amlwg fod y diwedd yn agos iawn. Yr oedd y Sais Mawr yn dawel ae yn ddistaw ers tro, ac yn anadlu'n wannach wannach o hyd. Daethai 'r offeiriad yno rhag ofn y buasai arno eisiau rhyw air o gysur ganddo fo cyn i'r diwedd ddyfod. Ac yr oedd yr offeiriad a'r meddyg yn sefyll un o bobtu i'r gwely, yn edrych weithiau ar y claf ac weithiau ar ei gilydd.

Yn sydyn, rhoes y claf ryw dro anesmwyth, a deallodd y meddyg fod arno eisiau rhywbeth. Plygodd ato, a gofynnodd iddo pa beth a fynnai, ond ni fedrai y Sais Mawr ddywedyd ei feddwl erbyn