Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

VIII. DARN O FYWYD.

YR oedd y simnai fawr wedi ei gorffen, un o'r rhai mwyaf yn yr holl wlad. Yr oedd mor uchel fel yr oedd edrych arni o'r gwaelod yn ddigon i godi'r bendro ar ddyn.

Yr oedd yr holl ysgaffaldiau wedi eu tynnu i lawr, ac yr oedd un dyn ar ben y simnai, un o'r dynion hynny sy'n medru sefyll mewn lle uchel mor ddi daro âg ar lawr. Yr oedd yn gorffen gosod y wifren oedd yn rhedeg gyda'r simnai o'r brig i'r bôn i dynnu'r mellt ati a'u harwain i'r ddaear rhag difrod i'r simnai. Yr oedd ganddo raff oddi mewn i'r simnai i fynd i lawr pan fyddai yntau wedi gorffen ei waith.

Yr oedd y gweithwyr eraill wrthi yn clirio'r ysgaffaldiau ar y gwaelod, ac ambell un obonynt yn awr ac yn y man yn edrych i fyny tua brig y simnai gan gysgodi ei lygaid â'i law, i weled pa fodd yr oedd y dyn ar y brig yn dyfod ymlaen gyda'i waith.

O'r diwedd, gorffennodd hwnnw ei orchwyl. Cododd ar ei draed, safodd ar ymyl y simnai, tynnodd ei gap a gwaeddodd "Hwre!" Gwaeddodd y dynion ar lawr "Hwre!" yr un modd, gan chwifio eu capiau hwythau.