Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd y dyn ar y brig yn un mentrus. Grwaeth na hynny, yr oedd yn un gorchestol. Safodd ar yr ymyl, ar ei untroed, a'i droed arall allan dros y dibyn a'i law ar led yn chwifio ei gap, a'r llaw arall yn pwyso ar ei ystlys, yn ddi-daro.

Troes amryw o'r dynion oedd ar lawr eu golygon draw rhag edrych arno. Yr oedd fel pe buasai yn herio ffawd yn y fath le, ac wrth wneud y fath branc. Gwelodd yntau ei fod yn rhoi braw iddynt. Chwarddodd, a dechreuodd ddawnsio ar yr ymyl, a throi o gwmpas rhimyn cul y simnai, mor chwim a di-daro ag aderyn.

"Cymer ofal, Wil!" llefodd un o'r dynion oedd ar lawr, "cymer ofal rhag ofn iti syrthio!"

Ond yr oedd Wil yn ei elfen, chwarddodd drachefn, a daliodd ati i brancio ar ben y simnai nes oedd ei gydweithwyr yn dechreu mynd yn sal eu calon wrth ei weled.

Yna, yn sydyn, daeth cyfnewidiad dros Wil. Yr oedd wedi plygu i lawr i edrych i mewn i'r simnai, ac yna wedi codi a sefyll, ac yr oedd bellach yn edrych yn syn ar y dyfnder tano.

Pa beth oedd wedi digwydd?

Clywyd llais Wil yn dyfod i lawr o'r uchter, —

"Be wna i 'rwan, hogia? Mae'r rhaff wedi rhedeg i lawr!"

Dychrynwyd hwy i gyd ar y cyntaf. Pa fodd y doi Wil i lawr? Nid oedd ond un ffordd am dani. Rhaid codi'r ysgaffald-