Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iau i gyd yn eu holau! Gwaeddasant arno fod yn llonydd yno, a dechreuasant ddyfod a'r coed a'r rhaffau ar eu holau at fôn y simnai.

Y funud honno, dechreuodd pobl dyrru i'r lle o'r pentref ger llaw. Yr oedd yr hanes wedi ymledu yn gyflym, ac yr oedd y bobl mewn dychryn wrth edrych i fyny a gweled lle'r oedd y dyn, heb foddion yn y byd i ddyfod i lawr oddi yno. Gwyddent am orchestion y dyn, ond yr oeddynt yn awr yn dechreu meddwl ei fod wedi "ei gwneud hi," ac wedi mynd i le rhy beryglus hyd yn oed iddo yntau fedru dyfod ohono yn ddiogel. Yr oeddynt yn sefyll yn dyrrau o gwmpas ac yn siarad â'i gilydd yn ei gylch, yn rhyw hanner distaw, fel y bydd pobl yn siarad mewn claddedigaeth neu o gwmpas gwely dyn ar farw.

Drwy eu canol, rhedodd dynes a hogyn bychan i'r lle. Yr oedd yn amlwg fod y ddynes mewn cryn gyffro, ond pan welodd hi Wil yn eistedd yn dawel ar ymyl y simnai a'i droed drosodd, tawelodd hithau hefyd.

"Wedi bod yn chware castie gwirion fel arfer y mae o?" meddai hi.

"Ie, y rhaff wedi rhedeg," ebr un o'r dynion ger llaw.

"Be wnewch chwi 'rwan, ynte?" ebr hi.

"Codi'r ysgaiffaldie yn ol," meddai'r dyn. "Beth arall wnawn i?"

Safodd y ddynes o'r neilltu, yn syn.