Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gwraig Wil oedd hi. Yr oedd yr hogyn bach wedi bod yn chware o gwmpas drwy'r dydd. Teulu crwydr oeddynt, ac nid oedd y plentyn yn mynd i'r ysgol. Pan welodd y bychan pa beth oedd wedi dyfod i ran ei dad, rhedodd adref ar ei gyfer a dywedodd wrth ei fam pa beth oedd wedi digwydd. A daeth hithau yno rhag blaen, er mai prin y disgwyliai fedru gwneud dim ond edrych ar Wil yn ei berigl ymhen y simnai.

Yr oedd y dynion wrthi yn brysur yn paratoi at ail godi'r ysgaffaldiau. Pa beth arall oedd i'w wneud? Llafur mawr, a hynny o achos gwrhydri gwyllt y dyn ar y brig!

"Yr hen benbwl gynno fo!" ebr un o'r dynion.

"Ie," meddai un arall, "mi fase'n hawdd ddigon iddo fo golli gafel i draed a dwad i lawr ar i ben."

"Base, ag eitha gwaith a fo, mewn rhyw ffordd hefyd!"

"Ie. Edrych mor ddi-daro y mae'r cena yn y fan acw!"

Tra'r oedd yr ymddiddan yn mynd ymlaen, yr oedd y ddynes wedi eistedd ar ddarn o bren ger llaw.

Bu hi unwaith yn ddynes hardd, yr oedd yn amlwg. Yr oedd ganddi wallt melyngoch hir a chyrliog, ond ei fod wedi colli ei ddisgleirdeb oherwydd bod yn hir heb ei olchi a'i gribo. Yr oedd ganddi lygaid gleision prydferth, ond yn awr, yr oedd cleisiau duon oddi tanynt. A'r dyn