Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/68

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd ar frig y simnai a roes y cleisiau iddi hefyd, yn ei ddiod y nos Sadwrn cynt. Nid oedd hi eto ond dydd Mercher, ac nid oedd y cleisiau wedi colli eu lliw dugoch. Yr oedd Wil yn eithaf dyn yn sobr. Ond gwae bawb rhagddo yn ei ddiod.

Yn sydyn, cyfododd y wraig ar ei thraed ac edrychodd i fyny ar ei gwr yn yr uchter mawr.

Dododd ei dwylaw un o bobtu i'w genau a gwaeddodd, —

"Wil! Wil!"

"Be sydd?" ebr yntau, gan blygu uwch ben y dyfnder.

"Pa sane sydd gen ti?"

"Y sane gwlan newydd rheiny."

"O'r gore. 'Roeddwn i yn meddwl. Oes gen ti gyllell?"

"Oes?"

"Wel, tyn dy esgid."

Tynnodd Wil ei esgid a thaflodd hi i lawr, nes oedd yn ymgladdu mewn swp o dywod wrth odre'r simnai.

"Yrwan, tyn dy hosan," meddai'r wraig.

Tynnodd Wil ei hosan, ond yr oedd yn amlwg na wyddai pa beth oedd ym meddwl ei wraig.

" 'Rwan," ebr hithau, "cymer dy gyllell a datod flaen yr hosan a thyn yr ede allan dipyn."

Gwnaeth Wil felly.

"Dyna ti," ebr y wraig. " 'Rwan, cymer dy gyllell a rhwyma hi wrth flaen