"Tyn hi i fyny 'rwan, ynte, y catffwl gen ti!" ebr hi.
A thynnodd Wil y rhaff i fyny eto i ben y simnai.
Pan gafodd afael ar y rhaff, neidiodd ar ei draed ar ben y simnai drachefn, dawnsiodd o gwmpas yr ymyl, safodd ar ei untroed fel o'r blaen, a'i gap yn un llaw a'r rhaff yn y llall, a gwaeddodd a'i holl egni —
"Hwre i'r hen wraig, myn cebyst hefyd!"
A gwaeddodd y dynion ar lawr dair hwre egniol i'r "hen wraig."
Yr oedd hithau yn sefyll ar y darn pren a'i breichiau ymhleth, heb wên ar ei hwyneb. Cododd ei llais yn sydyn.
"Wil," ebe hir, "tyrd i lawr, y cena gwirion gen ti. 'Rydw i wedi achub dy fywyd di chwe gwaith yrwan. Wna i ddim eto, fel mai byw fi!"
Cyn pen dau funud, diflannodd Wil y tu mewn i'r simnai, ac ymhen eiliad neu ddau wedyn, yr oedd ar lawr yn ymyl ei wraig.
"Myn cebyst!" ebe fo, "wyddost ti be, Catrin, mae'n aflwydd o gwilydd i mi fod wedi duo dy lygada di fel yna, ydi, tawn i'n marw y munud yma! Tyrd, wna i byth eto!"
A chan ruthro ati, taflodd ei freichiau am dani, a chusanodd ei hwyneb hanner glân yn ffyrnig ac yn hir.
Ac edrychodd y bobl ar y ddau mewn syndod.