Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

IX. Y BARDD.

‟Y BARDD" y byddem i gyd yn ei alw yn y siop. Yr oedd rhywbeth yn debyg i fardd yn ei olwg, a dyna sut y cafodd yr enw. Yr oedd yn hurt ac yn syn, a phan ddywedech rywbeth wrtho, caech ateb hollol chwithig yn aml. Felly, galwasom ef yn "Fardd."

'Doedd o i hun ddim wedi meddwl i fod yn fardd cyn hynny ychwaith. Ar y dechre, 'doedd o ddim yn leicio'r enw, ond prin y bu ddeuddydd nad oedd o wedi'n credu ni. Hynny ydi, yr oedd wedi llwyr benderfynu mai bardd oedd o.

Gyda'i fod o wedi credu i fod yn fardd, cafodd allan fod i daid yn arfer gwneud rhigymau yn amal iawn, a bod i dad unwaith wedi bod yn astudio'r cynghaneddion, ond i fod o wedi rhoi'r gore iddi yn rhy fuan o lawer, a hynny yn bennaf am nad oedd ganddo amser.

Mwy na hynny. O'r dydd y credodd i fod o yn Fardd, ni thorrodd "Y Bardd" byth mo'i wallt. Yr oedd o braidd yn hir o'r blaen, ond cyn pen y mis, yr oedd ganddo wallt a fuasai'n gredyd i Archdderwydd unrhyw ddydd. A 'doedd dim byd i'w gael ganddo wedyn ond son am wneud englynion, a dywedyd rhyw eiriau gwirion wrthych, a'r rheiny yn ateb i'w