Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gilydd, rywsut. Meddai fo. Ni byddai neb arall yn clywed eu bod yn ateb i ddim.

Wel, o'r diwedd, cafodd Y Bardd ryw lyfr yr oedd o yn i alw yn "Ysgol Farddol," a dyna lle'r oedd o a'i drwyn yn hwnnw o hyd. Bu agos iddo golli i le lawer gwaith o achos y llyfr hwnnw, canys byddai y meistr yn ei ddal o a'i drwyn ynddo yn lle bod wrth ei waith.

Bu wrthi gyda'r llyfr hwnnw am fisoedd, sut bynnag. Pan aem ni i gysgu, byddai y Bardd wrthi gyda'r llyfr, a phan ddeffroem yn y bore, dyna lle byddai yn darllen y llyfr o hyd. Nid wn i ddim yn iawn a fyddai yn cysgu ai peidio. 'Doedd dim i'w gael ganddo ond son am ryw reolau a phethau felly, nes oedd pawb ohonom wedi diflasu arno, ac yn gofidio yn arw ein bod wedi ei berswadio i gredu ei fod yn fardd. Ond 'doedd mo'r help bellach. Yr oedd o wedi credu. Ac ni buasai dim yn y byd yn ei argyhoeddi i'r gwrthwyneb. Dyna'r drwg i ddyn gredu ei fod yn fardd. Ni fynn byth newid ei feddwl wedyan. A fo yn gyffredin fydd yr unig un heb ei newid ar y pen hwnnw. Felly yr oedd Y Bardd.

O'r diwedd, meddyliodd un ohonom am ddull i geisio symud tipyn arno. A dyna oedd y dull hwnnw, gofyn iddo wneud englyn, yn lle son am danynt fyth a hefyd. Cafodd y peth argraff fawr arno a dywedodd yn y fan y gwnae o un y nos-