waith honno, os cai hwyl, neu os doi yr awen ato, fel y dywedodd i hun.
Bu ar i draed drwy'r nos, ond erbyn y bore, 'doedd yr englyn ddim yn barod. Ni ddoi yr awen ddim, eb efô. Felly, bu raid rhoi ail gynnyg arni. Do, a thrydydd a phedwerydd hefyd, a chwaneg na hynny. Bu ar i draed bob nos am wythnos gyfa, ac o'r diwedd, fore'r seithfed dydd, dyma fo atom, a'i lygaid yn goleuo gan lawenydd ac athrylith.
"Yr ydw i wedi gorffen yr englyn o'r diwedd!" eb efô.
"Aie?" eb un ohonom, "gad i ni i glywed o, ynte."
"Na chewch," ebr y Bardd yn fawreddog, "chewch chi mo'i glywed o, na'i weld o ychwaith nes bydd o mewn print."
"Mewn print?" eb un arall, "pwy printiff o, dywed? Wyt ti am i wneud o yn llyfr?"
Chwarddodd y Philistiaid gennym, ond edrychodd Y Bardd yn ddifrifol iawn, a dywedodd yn urddasol fod ei englyn ef yn sicr o gael ei brintio.
"Ym mhle, dywed?" ebr un o'r criw.
"Yn Y Lleuad, dyna lle bydd o," ebr y Bardd, "yng ngholofn farddonol Y Lleuad, sydd dan olygiaeth y Bardd Cadeiriol Pastynfardd."
Edrychasom oll arno gyda chryn syndod erbyn hyn. Tybed mewn difrif y byddai englyn Y Bardd yn Y Lleuad, o dan olygiaeth Pastynfardd? Yr oeddym