Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

braidd yn ameu a oedd y fath beth yn bosibl, ac yn dechreu rhyw led dybio y gallai ein bod wedi dyfod o hyd i fardd wedi'r cwbl, er mai o fregedd yr oeddym ni wedi rhoi'r enw arno.

Gwelodd Y Bardd ein bod yn synnu, a dywedodd yn ddifrifol i fod wedi ysgrifennu'r englyn ar ddarn o bapur te a'i ddanfon i Pastynfardd, golygydd barddonol Y Lleuad.

"Mi fydd i mewn yr wythnos nesaf, yn siwr i chi," meddai, "englyn i'r Ysgol Sul ydi o."

Wel, bu disgwyl mawr ar hyd yr wythnos honno. Yr oedd Y Lleuad yn codi—hynny ydi, yn dyfod allan ar ddydd Mercher. Ac fel yr oedd y diwrnod yn nesu, yr oedd Y Bardd yn mynd yn fwy urddasol o hyd. Prin y gwrandawai arnom ni, yr hogiau ereill, yn siarad, ac ni ddeuai cymaint a gwên dros ei wyneb pan ddywedem rywbeth mwy neu lai digrif. Yn ystod yr wythnos honno, rhoes sebon i bobl yn lle siwgr, ac oel paraffin yn lle ymenyn. Aeth i'w wely heb dynnu am dano un noswaith, a dododd ei wasgod o tan ei grys un bore. Ni bu erioed y fath ddisgwyl.

O'r diwedd, daeth dydd Mercher.

Brecwest? Na, ni chyffyrddodd Y Bardd damed o fwyd y bore hwnnw, nac o ginio ychwaith.

'Roedd Y Lleuad yn dyfod allan yn y prynhawn, tua thri o'r gloch, ac fel yr oedd yn digwydd bod, yr oedd Y Bardd