Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wrthi yn gwneud neges rhywun i fyny ar y pryd. Cododd ei olwg arnaf fi pan glywodd y cloc mawr yn taro tri, a deallais innau ei feddwl. Gan fy mod yn rhydd, allan a mi i nol copi o'r Lleuad, er ei fwyn ef a phawh arall ohonom. Nid allasai neb byth anufuddhau i'r apel fud oedd ar ei wyneb pan edrychodd arnaf fi wrth glywed y cloc yn taro tri. Yr oedd yr un fath a'r apel a welsoch yn llygad ambell gi ar dro.

Rhedais i siop Huw Chwe Cheiniog i nol y Lleuad, ac yn fy ol â mi a'r trysor yn fy llaw, heb feiddio ei agor ar y ffordd. Erbyn i mi gyrraedd, yr oedd y siop yn llawn, a'r Bardd wrthi yn tendio ar Marged Jones y Geg Fawr, un o'r merched mwyaf anodd i'w phlesio yn y greadigaeth yma.

Gwelodd Y Bardd fi yn llithro i mewn, a bwriodd olwg arnaf, golwg cymysg o awydd a phoen, o deimlad da ataf fi ac o gasineb marwol at Marged Jones y Geg Fawr. Yr oeddwn yn cydymdeimlo ag ef hefyd. Nid oedd raid i ddyn fod ar frys am weled ei waith mewn print er mwyn dymuno gweled y Geg Fawr yn mynd ymaith—, i'r lle fynnoch chi.

Y tro hwnnw, bu'r Geg Fawr wrthi yn waeth nag arfer. Yr oedd arni eisiau pob math o bethau, a'r Bardd druan yn rhedeg yn ol a blaen ac yn cymysgu pethau yn ddiobaith o hyd, ac yna yn rhoi ei ddwy law ar y cownter, yn plygu tipyn ar ei ben at un ochr, ac yn gofyn, "Rhyw-