Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

X. CI DAFYDD TOMOS.

FFERMWR bychan oedd Dafydd Tomos, yn byw ar ystad y Gaer ac yn talu crogrent am ei dipyn tir. Y pryd hwnnw, yr oedd ar denantiaid ystad y Gaer ofn y meistr tir a'i ystiward fel gwyr â chleddyfau, ac o'r holl denantiaid i gyd, Dafydd Tomos oedd y mwyaf ei ofn a'i waseiddiwch hefyd, os rhaid dywedyd y gwir yn blaen. Dyn bychan, arafaidd a gochelgar dros ben oedd Dafydd Tomos, mab i dad a wnaed yn gynffonllyd drwy ormes, ac yntau drachefn yn fab i dad yr un fath. Yr oedd oesau o ddioddef gormes wedi gwneud y teulu yn salach a mwy dianibyniaeth hyd yn oed na'r cyffredin,—yr oedd ofn a gwaseiddiwch yn eu gwaed, megis. Hen lanc oedd Dafydd, a'i chwaer Catrin yn cadw ei dŷ. Pe buasai yn wr priod a chanddo blant, hwyrach y buasai ynddo dipyn mwy o asgwrn cefn, ond fel yr oedd, nid oedd gan Dafydd odid amcan mewn bywyd amgen na cheisio cadw y ddysgl yn wastad i'w feistr tir a'i ystiward.

Byddai ar holl ffermwyr yr ardal fwy neu lai o ofn y meistr tir a'r ystiward, fel y dywedwyd, ond nid cymaint fel na feiddient eu rhegi rhyngddynt a'i gilydd, a dywedyd pethau beiddgar am danynt, yn enwedig ar ddiwrnod ffair neu farchnad, ar ol cael llymed neu ddau o gwrw cartref yn