Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/80

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Felly, gwell gan Dafydd Tomos fyw yn yr hen gwt budr a thomen dail yn lle to iddo, na gorfod gadael yr hen gartref a mynd i fyw i rywle arall.

Yr oedd Dafydd yn ddyn eithaf caredig yn ei ffordd, cyhyd ag na byddai raid i'w garedigrwydd fynd yn groes i'w ofn rhag ei feistr tir. Os digwyddai hynny, ni byddai wiw disgwyl am unrhyw garedigrwydd oddiar ei law. Cred ei gymdogion am dano oedd y buasai yn gwerthu ei chwaer ei hun cyn y buasai yn rhedeg i'r perigl o dynnu gwg ei feistr tir am ei ben. Hwyrach fod pobl yn dywedyd felly am nad oedd rhyw lawer o dda rhwng Dafydd â'i chwaer yn gyffredin. Byddent yn ffraeo yn barhaus, ac un rheswm am hynny oedd fod Beti Tomos gryn lawer yn fwy anibynnol na'i brawd. Yn wir, byddai Dafydd mewn ofnau parhaus rhag i rai o ddywediadau cras Beti ei chwaer gyrraedd i glustiau y meistr tir neu yr ystiward. Nid oedd ddeilen ar dafod Beti, ac nid oedd ganddi ddaint rhag ei thafod ychwaith. Dywedai pa beth bynnag a ddeuai i'w meddwl yn hollol wyneb agored a byddai Dafydd yn aml yn ddigllon iawn wrthi am hynny.

Rhwng popeth, gŵr go ddi-gyfaill ydoedd Dafydd Tomos. Prin yr oedd ei gymdogion yn ei gymryd o ddifrif, ac yr oedd ei chwaer ei hun yn ei ddirmygu oherwydd ei lyfrdra.

"Yr hen gadi," ebr hi wrtho yn fynych iawn, "yr hen gadi gen ti! Rhaid