Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Wedi i'r syniad hwn ddyfod i'w feddwl, bu Dafydd yn llawer tawelach, a rhoed coler am wddw Pero, a rhwymwyd ef wrth gadwyn yn ddi-oed. Bu felly am rai wythnosau, heb gael bod yn rhydd ond pan fyddai yn mynd gyda Dafydd i hel defaid neu rywbeth felly. O dipyn i beth, aeth ofnau Dafydd yn llai,: a chai Pero fwy o ryddid drachefn, ond ni wnaeth well defnydd o'i ryddid nag o'r blaen. Y cyfle cyntaf a gafodd, aeth ati i ddal cwningod drachefn, a'r tro hwn daeth pethau i ben.

Yr oedd y ceidwad helwriaeth wedi gweled Pero yn dal cwnhingod, ond er pan gadwasai Dafydd ef wrth gadwyn, nid oedd wedi cael cyfle i'w saethu. Un diwrnod, yr oedd Dafydd wedi mynd i edrych am y defaid, a Phero gydag ef. Gofalai gadw y ci yn ei olwg o hyd, ond rywfodd, wrth ddychwelyd tuag adref, anghofiodd am funud, a rhedodd Pero ar ol cwnhingen. Clywodd Dafydd ef toc yn cyfarth yn y pellter, troes ei ben, a gwelodd ef yn rhedeg gyda chlawdd cae beth pellter oddiwrtho. Yr oedd Dafydd ar fedr chwibanu arno pryd y gwelodd bwff o fwg, clywodd glec, a gwelodd Pero yn rhoi naid i'r awyr, gwegian yn ei flaen am gam neu ddau, ac yna yn syrthio ar lawr.

Heb betruso munud, rhedodd Dafydd tuag ato, ac wrth fynd, gwelodd geidwad yr helwriaeth yn cerdded ymaith a'i wn ar ei ysgwydd.