Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/88

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chyfrifai fod hynny yn ei godi uwchlaw ei debyg. Pan aeth ei ferch i weini i'r Plas, ystyriai fod hynny yn anrhydedd mawr arno, a sarhaodd fwy nag un o'i gydnabod drwy awgrymu gymaint gwell oedd ei ferch ef na'u merched hwy oedd yn gweini gyda ffermwyr a phobl gyffredin felly. "Lei Bach Fawr" y byddai'r cymdogion yn galw yr hen greadur, ond Mari Huws y byddai pawb yn galw yr hen wraig. Yr oedd hi yn hollol groes i'w gŵr ym mhob ystyr.

"Dyma ti, Lias," meddai hi wrtho un noson, fel y byddai'n dywedyd yn aml, "mae gen ti ormod o gynffon i bethe'r Plas 'na o lawer. I be'r wyt ti'n tynnu dy gap iddyn nhw bob amser, ac yn digio dy gymdogion drwy ryw hen stumie gwirion yn eu cylch nhw? Wyt ti 'run mymryn mwy dy barch wedi'r cwbwl ganthyn nhw."

"Ond cofia dithe, Mari," meddai Lei yn ei dro, "mae arnyn nhw yr yden ni yn dibynnu am y'n tamed—."

"Tamed, wir!" ebe Mari Huws, "mi fase yn o ddrwg arnon ni am damed yn elo dy ddeuddeg swllt yn yr wythnos di, mi rof ngair iti! Lle base'n tamed ni oni bae mod i yn golchi tipyn ac yn manglo a smwddio dillad? Yn wir, mae'n edifar iawn gen i na faswn i wedi gneud iti fynd i weithio at y ffarmwrs ers talwm, a golchi tipyn yn chwaneg fy hun, gael i ni fod fel rhyw bobol erill, yn lle dawnsio