Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/90

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Dy ferch di ydi hi," ebr Mari, " 'does dim tebyg i'w mam ynddi. Ar fy ngair i, pan oedd hi adref y llynedd, mi allaset feddwl na fuo hi 'rioed yng Nghymru, efo'i Saesneg a'i llediaith, ac os bydd hi'r un fath eleni cheiff hi ddim croeso yma, mi gymraf fy llw iti!"

"Wel, wel," ebr Lei, ac aeth allan gan weled nad oedd ond ofer iddo ddadlu â Mari yn hwy.

Fore drannoeth, daeth Catrin adref, a'i chariad o Loegr hefo hi. Pan gyrhaeddasant y stesion, galwodd Catrin ar Dic Morus, oedd yn disgwyl am rywun gyda'i gerbyd, i gario ei phethau a'i chariad a hithau o'r stesion at y ty.

"Chi gwbod lle mae tad fi yn byw?" ebr Catrin wrth Dic.

Gwyddai Dic yn dda, ond dododd ei law wrth ei gap, edrychodd yn ddifrifol, ac atebodd,—

"Rhoswch chi, ma'm, ai nid merch y Sgwier o'r Plas ydech chi?"

"Nage, nage!" ebr Catrin, "fi dim merch i'r Sgwier chwaith."

"Wel, merch y person, ynte," ebr Dic, gan gyffwrdd ei gap drachefn.

"Nage!" ebr Catrin, braidd yn flin.

"Wel," meddai Dic yn ostyngedig, " 'does yma neb arall yn yr ardal yma yn gwisgo mor grand, ac yn siarad mor garpiog â chi."

"Ceuwch y'ch hen geg, y cena hy gynnoch chi!" ebr Catrin gan anghofio ei llediaith a'i chariad yn ei gwylltineb.