Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/96

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XII. CARIAD DICO BACH.

NI byddem yn cyfrif Dico Bach yn union fel rhywun arall. Nid oedd unrhyw goll arbennig arno, ond yr oedd yn rhyw ddiniwed. Crydd ydoedd wrth ei alwedigaeth, a gweithiai mewn siop lle cedwid amryw gryddion.

Yr adeg honno yr oedd pobl Cymru yn gwisgo esgidiau lledr wedi eu gwneud gartref yn lle rhai papur wedi eu gwneud yn Lloegr. Felly, yr oedd gan Dafydd Roberts y crydd waith i gryn bedwar neu bump o gryddion drwy'r flwyddyn. Yno y gweithiai Dico Bach er pan oedd yn hogyn; ac yr oedd yn hoff iawn gan ei gydweithwyr, gan ei feistr, a chan bawb a'i hadwaenai.

Creadur bychan a rhyw draed drwg ganddo ydoedd Dico. Wrth ei weled yn cerdded o bell, gallasech feddwl ei fod wedi meddwi, gan drysgled y rhodiai, ond ni feddwodd Dico erioed. Yr oedd yn ddirwestwr mawr. Yr oedd ganddo wyneb crwn, a gwên arno bob amser, a theimlai yn hynod falch o'r ychydig fiew melynion a dyfai ar ei wefus uchaf. Pa beth bynnag yr ymaflai Dico ynddo, byddai yn selog dros ben gydag o. Yr oedd yn perthyn i'r capel, ac ni byddai gyfarfod na byddai Dico yno yn gyson. Yr