Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/97

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd yn aelod o'r côr, yn un o'r dynion oedd yn canu bas, ac ni bu gyfarfod canu erioed er pan gychwynnwyd y côr na bu Dico yno.

Gyferbyn â'r siop lle'r oedd Dico yn gweithio yr oedd siop ddillad. Siop fechan ddigon diolwg ydoedd, yn dwyn yr enw mawreddog "London House." Un gaeaf, daeth geneth ieuanc o rywle o'r De i weini i'r siop hon. Gwneud hetiau a boneti oedd ei gwaith, a byddai yn eistedd wrth ffenestr oedd gyferbyn â ffenestr siop weithio'r cryddion. Geneth hardd anghyffredin oedd hi, dal a syth, a chanddi gyflawnder o wallt melyn tonnog, a chroen glân clir. Gwelodd Dico hi y diwrnod cyntaf y cymerodd ei lle wrth y ffenestr, a syrthiodd mewn cariad â hi rhag blaen. Y noswaith honno, cafodd allan ym mha le yr oedd hi yn lletya, a'i bod yn mynd i'r un capel âg yntau. Wrth fynd adref i'w ginio, byddai Dico yn cychwyn ar hyd yr un stryd â hi, ac os na byddai hi yn y golwg, arhosai Dico o gwmpas nes deuai, yna gadawai iddi hi fynd yn gyntaf, a chanlynai hi nes ai i'w llety. Yna troai Dico yn ei ol tua'r cwrt bychan tlodaidd lle'r oedd ei gartref yntau. Dechreuodd wneud hyn yn ddioed ar ol dyfodiad yr eneth ieuanc—Miss Jenkins oedd ei henw—i'r dref. Ar y Sul, byddai Dico er yn fore yn gwylio llety Miss Jenkins. Pan welai hi yn dyfod allan, ciliai yntau o'r golwg nes iddi basio, yna cerddai ar ei hol tua'r capel,