Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/99

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a'r côr yn barod i fynd i'w danfon adref pan fynnai. Ond yr oedd Miss Jenkins dipyn yn falch, a chan mai chwarelwyr a llafurwyr oedd y rhan fwyaf o fechgyn y capel a'r côr, ni fynnai hi wneud dim â hwy ond yn unig ddywedyd nos dawch neu rywbeth felly wrth eu pasio, pan ddywedent hwy rywbeth wrthi hi. Felly, ni byddai neb byth yn ei danfon adref, ond Dico, a byddai yntau bob amser yn cerdded ar ei hol o fewn ychydig lathenni iddi.

Un bore Sul, yr oedd Dico wedi disgwyl yn hir am ei gweled hi yn dyfod allan o'r tŷ, ac yr oedd bron a rhoi'r goreu i ddisgwyl yn hwy, gan feddwl na ddeuai hi ddim; ond pan oedd ar gychwyn ymaith, gwelodd hi yn dyfod trwy'r drws. Ciliodd Dico, fel arfer, ac ar ol iddi hi basio, aeth yntau yn ei flaen. Yr oedd hi yn digwydd bod yn fore gwlyb, a'r ffordd yn fudr iawn, ac wrth fynd yn ei brys, gollyngodd Miss Jenkins ei llyfr emynnau o'i llaw, nes rholiodd i'r gwter.

Cyn iddi allu troi bron i'w godi, yr oedd Dico yno, er ei drysgled ar ei draed. Cododd y llyfr, tynnodd ei gadach sidan coch goreu o'i logell, sychodd y llyfr yn ofalus, ac yna tan wenu yn siriol, estynnodd ef i Miss Jenkins. Gwenodd hithau arno yntau, ac wrth dderbyn y llyfr, dywedodd "Diolch yn fawr i chi," ac aeth yn ei blaen.

Yr oedd yn ychydig ddigon i'w ddywedyd am y fath weithred a spwylio'r cad-