yntau y cymerth Estefyn o Blaes, ei nai, goron y deyrnas yn drais, a darostyngodd. yn wrol iddo holl ddeheu Lloegr.
1135. Llas Ricert fab Gilbert gan Forgan ab Owen.
Wedi hynny cyffroes Owen a Chadwaladr, feibion Gruffydd fab Cynan, ddirfawr lu i Geredigion, —y gwyr a oedd degwch yr holl Frytaniaid, a'u diogelwch a'u rhyddid a'u cadernid; y gwyr a oeddynt ddau ardderchog frenin, a dau haelion; dau ddiofn, dau lew dewrion; dau ddedwyddion, dau huodron, dau ddoethion; diogelwyr yr eglwysau a'u hardemylwyr, ac amddiffynwyr y tlodion: llofruddion y gelynion, heddychwyr y rhai ymladdgar dofiodron y gwrthwynebwyr; y diogelaf nawdd o bawb ar a ffoai atynt y gwyr a oeddynt yn rhagrymhau o nerthoedd eneidiau a chyrff, ac yn cydgynnal yn un holl deyrnas y Brytaniaid. Y rhai hynny ar y rhuthr gyntaf, a losgasant gastell Gwallter. Ac yna, wedi cyffroi eu hadanedd, yr ymladdasant â chastell Aberystwyth ac ei llosgasant. A chyda Hywell fab Meredydd a Madog fab Idnerth a deufab Hywel, nid amgen Meredydd a Rhys, llosgasant gastell Ricert de la Mere, a