Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chastell Dinerth, a chastell Caerwedros. Ac oddyna ymchwelasant adref.

Yn niwedd y flwyddyn honno daethant eilwaith i Geredigion, a chyda hwynt amlder llu o ddetholedigion ymladdwyr, fel o amgylch chwe mil o bedyt addwyn a dwyfil o farchogion llurygog. Ac yn borth iddynt y daeth Gruffydd fab Rhys, a Hywel fab Meredydd o Frycheiniog, a Madog fab Idnerth a deufab Hywel fab Meredydd. A'r rhai hynny oll yn gyfun a gyweiriasant ou byddinoedd yn Aberteifi. Ac yn eu herbyn y daeth Ysteffyn Gwnstabl, a Robert fab Martin, a meibion Gerald ystiward, a'r holl Fflemisiaid, a'r holl farchogion, a'r holl Ffreinc o Aber Nedd hyd yn Aber Teifi. Ac wedi cyrchu y frwydr ac ymladd yn greulon o bob tu, y cymerth y Fflemisiaid a'r Normaniaid eu ffo oherwydd eu harferedig ddefod. Ac wedi lladd rhai onaddunt, a llosgi ereill, a thrychu traed meirch ereill, a dwyn ereill yng nghaethiwed, a boddi y rhan fwyaf megis ynfydion yn yr afon; ac wedi colli amgylch tair mil o'u gwyr, yn drist aflawen yr ymchwelasant i'w gwlad. Ac wedi hynny ymchwelodd Owen a Chadwaladr i'w gwlad yn llawen, wedi caffael y