fuddugoliaeth, a chael dirfawr amlder o geith, ac anrheithiau, a gwisgoedd mawrwerth, ac arfau.
1136. Bu farw Gruffydd fab Rhys, lleufer a chadernid ac addfwynder y Deheuwyr.
Y flwyddyn honno bu farw Gruffydd ab Cynan, brenin a phenadur a thywysog ac amddiffynnwr a heddychwr holl Gymru, wedi lliaws o beryglon môr a thir, wedi aneirif anrheithiau a buddugoliaethau rhyfeloedd, wedi goludoedd aur ac arian a dillad mawrwerth; wedi cynnull Gwynedd, ei briod wlad, y rhai a darwyd eu gwasgaru cyn na hynny i amryfael wledydd gan y Normaniaid; wedi adeiladu llawer o eglwysau yn ei amser, a'u cysegru i Dduw wedi gwisgo am dano yn fynach, a chymryd cymun corff Crist, ac olew, ac angen.
Yn y flwyddyn honno bu farw Ieuan, archoffeiriad Llanbadarn, y gŵr a oedd ddoethaf o'r doethion; wedi arwain ei fuchedd yn grefyddus hyd angau yn y trydydd dydd o galan Ebrill.
Yn y flwyddyn honno hefyd, daeth meibion Gruffydd ab Cynan y drydedd waith i Geredigion, a llosgasant gastell