Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yna achubodd Hywel fab Owen ran Cadwaladr o Geredigion, a llosges gastell Cadwaladr a oedd yn Aberystwyth.

Llas Milo, iarll Henffordd, â saeth. neb un farchog iddo ei hun, a oedd yn bwrw carw yn hela gydag ef.

1143. Pan welas Cadwaladr fod Owen ei frawd yn ei wrthladd o'i holl gyfoeth, cymerth lynges o Iwerddon a orug, a dyfod i Abermenai i'r tir. Ac yn dywysogion gydag ef yr oedd Otter, a mab Turkyll a mab Cherwlf, Yng nghyfrwng hynny cytunodd Owen a Chadwaladr, megis y gweddai i frodyr, a thrwy gyngor y gwyrda y cymodasant. A phan glywyd hynny, delis Germanwyr Gadwaladr; ac yntau a amodes iddynt ddwy fil o geith,. ac felly yr ymryddhaodd oddiwrthynt. A phan gigleu Owen hynny, a fod ei frawd yn rhydd, terfysgus gynnwrf a wnaeth arnynt, a'u cyrchu yn ddiennig a orug. A gwedi lladd rhai a dala ereill a'u caethiwo yn waradwyddus, y diangasant ar ffo hyd yn Dulyn.

Y flwyddyn honno dadgyweiriodd Hu fab Rawli gastell Gemaron, a goresgynnodd eilwaith Faelenydd. Ac yna adgyweiriwyd Colwyn, a darostyngwyd Elfael yr eilwaith i'r Ffreinc.